Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 23 Medi 2019 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2019(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Carys Evans, Pennaeth Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil Kevin Davies, Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.
Croesawyd Arwyn Jones, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, i'w gyfarfod cyntaf.
1.2 Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf.
2 Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 20-21
Trafododd y Comisiynwyr eu cyllideb ddrafft arfaethedig ar gyfer 2020-21 ymhellach wrth baratoi ar gyfer ei gosod ar 1 Hydref fan bellaf.
Gwnaethant drafod newidiadau yn y gyllideb weithredol a chyffredinol ynghyd â blaenoriaethau arian prosiect. Gwnaethant nodi hefyd y diwygiadau sy'n ofynnol i gyfrif am y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 newydd – Prydlesi a llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Trafododd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2020-21, a’i chymeradwyo, yn amodol ar rai mân addasiadau i’r naratif.
3 Gosod Ffenestri Newydd yn Nhŷ Hywel
Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer gosod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel, sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol, ac rydym yn gweld nifer gynyddol o ddiffygion nad oes modd o’u trwsio.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb, ac y dylid adrodd ar y canlyniad maes o law.
4 Diweddariad ar Ddiwygio’r Cynulliad
4A -Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - Y Comisiwn Etholiadol
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar gynigion sy’n ymwneud â’r gwelliannau arfaethedig mewn perthynas ag ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd yn y Bil a diweddariad i’r amserlen ddeddfwriaethol.
Gwnaethant drafod model arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar gyfer ariannu'r Comisiwn Etholiadol a goblygiadau dulliau gweithredu gwahanol fel y nodwyd yn ei ohebiaeth â'r Pwyllgor Cyllid. Gwnaethant nodi hefyd y byddai angen cydsyniad Gweinidog y Goron yn Llywodraeth y DU ar y gwelliannau arfaethedig ac y byddai angen ei gael ymhell o fewn yr amserlenni arferol er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn cael Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.
Cytunodd y Comisiynwyr mai eu ffafriaeth o hyd yw gweld y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Bydd y Llywydd yn trafod y mater ymhellach â'r Comisiynwyr i gytuno ar eu hymateb yn ystod Cyfnod 2 ar ôl cael barn y Pwyllgor Cyllid a rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru.
4A - Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - materion nad ydynt yn gysylltiedig â’r Comisiwn Etholiadol
Roedd y Comisiwn wedi gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r posibilrwydd o anghymhwyso staff y Comisiwn rhag sefyll etholiad i'r Cynulliad, a chyhoeddi gwariant etholiadau'r Cynulliad.
Trafododd y Comisiynwyr sut y dylai'r Llywydd ymdrin â'r materion hyn yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2 ar y Bil a hefyd sut i ymateb i ddiwygiadau eraill y gellid eu gosod.
Nododd y Comisiynwyr y cynnydd ynghylch cynigion i godi ymwybyddiaeth mewn perthynas â chyflwyno pleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a chroesawyd y newyddion y byddent yn cael rhagor o wybodaeth yn eu cyfarfod nesaf.
5 Mynd â busnes y Cynulliad o Gaerdydd
Nododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd a chytunwyd y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau ac arweinwyr pleidiau’n amlinellu'r achos ac yn ceisio eu barn am lefel y diddordeb yn y math hwn o waith ymgysylltu.
6 Costau sy’n gysylltiedig â Swyddfeydd Aelodau a ariennir yn ganolog gan y Comisiwn
Ar ôl cytuno yn 2018 i geisio sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â chostau yr eir iddynt gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ar wahân i’r rheini y mae’r Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, trafododd y Comisiynwyr ddata yn ymwneud â gwariant dros gyfnod o 12 mis.
Cytunodd y comisiynwyr i siarad â’u grwpiau ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff y costau hyn eu rheoli, gyda’r bwriad o gytuno ar yr argymhellion er mwyn hwyluso’r gwelliant hwn.
7 Diweddariad ar Brexit
Nododd y Comisiynwyr wybodaeth a roddwyd am baratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â Brexit ar ochr busnes ac ochr gwasanaethau corfforaethol y Comisiwn.
8 Ugain mlwyddiant – Gŵyl GWLAD
Trafododd a nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am raglen Gŵyl GWLAD.
9 Papurau i’w nodi:
9.1 Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Cafodd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ar benderfyniadau RAD diweddar.
9.2 Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd fis Gorffennaf (drafft)
Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gyflwynwyd yn ôl yr arfer.
10 Unrhyw fater arall
Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr am hysbysiad cynllunio a ddaeth i law yn ymwneud â datblygu llinell sip arfaethedig dros dro ym Mae Caerdydd.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar yr Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol.